Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/413

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mwyaf naturiol i'w ddawn ef. Yr oedd y bregeth gyntaf erioed a glywsom ni ganddo, yr hyn oedd yn ein capel ni yn Nghaergybi, tua'r flwyddyn 1821, oddiar Weledigaeth yr esgyrn sychion, yn un dra difrifol. Yr ail dro i ni ei glywed, yr oedd yn dra gwahanol. Yr oedd hyny drachefn yn Nghaergybi, ar yr achos Cenadol, yn y flwyddyn 1825, pryd ar ol pregeth nodedig o ddifrifol gan y diweddar Mr. Roberts, Llanbrynmair, oddiar Zechariah iv. 6, y pregethodd Mr. Williams oddiar Esther iv. 14, 'O herwydd os tewi a son a wnei di y pryd hyn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i'r Iuddewon o le arall, tithau a thy dy dad a gyfrgollir. A phwy sydd yn gwybod ai o herwydd y fath amser a hwn y daethost ti i'r frenhiniaeth. Yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon, tra ond yn myned dros yr hanes megys y mae yn llyfr Esther, gan wneuthur rhai sylwadau arno, nid ydym yn gwybod i ni erioed, beth bynag, mewn capel, weled y fath olygfa. Yr oedd y pregethwr ei hunan yn hollol sobr; ond yr oedd y bobl yn methu ymatal, ac yn ymollwng gyda'u teimladau i chwerthin allan dros y capel, heb feddwl dim yn mha le yr oeddynt. Parhaodd hyny, ni a dybiem, am tuag ugain munyd. Ond wedi dyfod at y testun, ac at y mater neillduol oedd ganddo oddiwrtho—Gofal am achos Duw yn mylchau ei gyfyngder,' yr oedd yno le pur wahanol. Nid yn fynych y gwelsom gynulleidfa