Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/414

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi ei dwyn i fwy o ddifrifwch nag oedd hono, yn y rhan olaf o'r bregeth. Dyma yr unig dro erioed i ni ei glywed yn tueddu at ddim a allasai yru y bobl yn ysgafn, ac yr ydym yn meddwl mai dyma y tro diweddaf iddo wneud hyny. Ni a glywsom o leiaf fod Mr. Roberts, Llanbrynmair, wedi siarad yn ddifrifol iawn âg ef ar ol yr oedfa y pryd hwnw; a bod Mr. Williams wedi addef iddo ei fod ef ei hunan wedi teimlo pan y canfu y fath ysgafnder ar y bobl, ac wedi addaw iddo hefyd na chymerai y fath gyfeiriad byth ar ol hyny. Pa fodd bynag, yn ystod y blynyddoedd diweddaf o'i oes yr oedd ei weinidogaeth o nodwedd hollol wahanol; yr oedd yn wir, mor ddifrifol, ac felly bob amser, ag odid ddim a glywsom ni erioed, a chymhwysder arbenig ynddi i ddwyn ei holl wrandawyr i deimlo yn gyffelyb. Yr oedd ei feddwl o nodwedd athronyddol, ymhoffai mewn 'chwilio o'r naill beth i'r llall i gael allan y rheswm,' ac ni byddai yn teimlo ei hunan yn dawel gyda golwg ar unrhyw adnod yn y Beibl a ddygid i'w sylw, ac yn enwedig a gymerid ganddo yn destun pregeth, hyd oni byddai wedi cael allan, neu dybied ei fod wedi cael allan yr egwyddor neillduol, neu y gwirionedd mawr a ddysgir ynddi. Yr oedd, nid yn unig yn credu yn ddiysgog fod natur a datguddiad wedi dyfod oddiwrth yr un Awdwr, ond fod yr un egwyddorion yn rhedeg trwy, ac i'w canfod yn y naill ag sydd yn y llall;