Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/415

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a bod pob cynydd ar ein hadnabyddiaeth o'r naill, yn fantais wirioneddol i ni i ddeall ac i egluro y llall. Yr oedd cyffelybrwydd nodedig rhyngddo yn hyn â'r diweddar Barch. Richard Humphreys o'r Dyffryn, sylwadau yr hwn oeddynt o'r un nodwedd athronyddol a'r eiddo yntau, ac yn hytrach, mewn ffurf fwy arwireddol (apharistic), er nad oedd un gymhariaeth rhwng

rhwng Mr. Humphreys ag ef yn nerth ei ddychymyg, nac yn enwedig yn ei allu areithyddol. Ond yr oedd y ddau yn nodedig o debyg am eu hymchwil i'r egwyddor a orweddai yn eu testun, yn gystal ac yn eu hamcan i ddangos fel yr oedd eu gwrandawyr yn deall, ac yn cydnabod yr egwyddor hono mewn cysylltiadau eraill. Fe fyddai gan Mr. Williams, yn arbenig, braidd yn mhob pregeth, ryw un egwyddor fawr yn cael ei chodi gerbron ei wrandawyr, ac fe gymerai y fath drafferth i'w hegluro, i ddangos ei phwysigrwydd, ac i roddi engreifftiau o honi yn ngwahanol ddosbarthiadau natur, neu o fewn cylch y gymdeithas ddynol—nes ei gwneuthur mor amlwg, fel nid yn unig y gallai pawb ddeall, ond y gallesid meddwl y buasai yn anmhosibl i neb beidio deall. Er esiampl, yr ydym yn ei gofio yn pregethu ar foreu dydd gwaith yn Mangor, yn haf y flwyddyn 1835, oddiar 2 Tim. iii. 13:"Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a änt rhagddynt waeth-waeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo." Nid oedd y gynulleidfa ond bechan wrth