Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/416

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystyried pwy oedd yn y pulpud, ac eto yr oedd yn weddol a chofio mai dydd gwaith ydoedd. Darllenai y testun yn hytrach yn afrwydd, ond yn dra difrifol. Siaradai y tro hwn yn y rhagymadrodd, yn rhwyddach, ac yn gywirach nag y byddai braidd un amser yn gwneud yn y rhan hono o'r bregeth. Wedi sylwi ar y geiriau yn y cysylltiad y dygir hwynt i mewn gan yr apostol, a'u golygu megys awgrym i Timotheus, y gallai fod erlidiau mwy yn ei aros yntau, a'r pwys iddo gan hyny fod yn benderfynol i fod yn ffyddlon i'r efengyl, ac aros yn y pethau y dysgwyd ef ynddynt—fe ddisgynodd ar y gwirionedd y dymunai ei ddwyn i'n sylw oddiwrthynt, "Fod egwyddor ddrwg, tra yn y llywodraeth, yn enill nerth mwy yn meddwl dyn." Yna fe ddangosodd mai dyma y ddeddf fawr gyffredinol trwy yr holl greadigaeth, gan nodi amryw engreifftiau, yna dangosodd fod yr un peth yn perthyn i'r meddwl dynol, yn ei arferion deallol, ac yn ei dueddiadau moesol, gan egluro yr egwyddor, yn arbenig yn ei pherthynas â chynydd gras a santeiddrwydd yn y dyn duwiol, a hyny mor ddeheuig ac effeithiol, nes yr oedd teimlad hyfryd yn meddianu y gynulleidfa i gyd. Yna, yn y modd mwyaf difrifol, fe droes i gymhwyso yr egwyddor at ddynion drwg—y meddwyn, yr aflan, y cybydd, y balch, &c., gan adrodd y testun gyda llais difrifol, yn niwedd ei ymdriniaeth â phob cymeriad, "drwg ddynion a thwyllwyr a änt