Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/417

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhagddynt waeth-waeth." Wedi dangos cynydd nerth y drwg yn y byd hwn, fe aeth rhagddo i ddangos, gan mai dyna natur yr egwyddor, y bydd yr un briodoledd yn perthyn iddi yn y byd a ddaw, ac felly y bydd y dyn drwg yno—byth, byth, byth—yn myned yn "waeth-waeth." Yr oedd rhyw sobrwydd ofnadwy pan gyda hyn, yn ei edrychiad, ac yn ei lais, yn gystal ag yn y pethau a draddodid ganddo. "Mae yna ddyn yn eistedd yn y seat yna yrwan. Y mae yn annuwiol y boreu yma er y bregeth hon, a chanoedd o bregethau o'r blaen, nid oes ynddo un meddwl difrifol i adael ei annuwioldeb. Parhau yn annuwiol a wna. Ryw ddiwrnod fe fydd farw yn annuwiol. Ac wrth farw fe ä a'i holl annuwioldeb yn y byd hwn gydag ef i'r byd hwnw. Ac mi a welaf ryw bwynt, draw, draw, draw, yn y tragwyddoldeb pell, pan y bydd y dyn yna wedi casglu i'w galon ei hunan fwy o elyniaeth at Dduw nag sydd heddyw yn nghreadigaeth Duw i gyd. 'Drwg ddynion a thwyllwyr a änt rhagddynt waeth-waeth.'" Terfynodd gydag apeliad dwys at ei wrandawyr i edifarhau a dychwelyd ar unwaith. Wedi y fath bregeth, nid oedd ryfedd i lawer o honom fyned i Beaumaris y noswaith hono i wrandaw arno drachefn, lle y pregethodd oddiar Hosea xiii. 13, ac o'r hon y mae crynhoad gwerthfawr yn ei gofiant. Yr oedd y nodwedd meddyliol y cyfeiriasom ato uchod, hyd yn nod ar ei ddychymyg ef. Yr oedd ei ddychymyg