Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/418

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gryf ac yn gyfoethog iawn. Ond dychymyg yr athronydd oedd yn hytrach na dychymyg y bardd; dychymyg Bacon, ac nid Milton. Nid gallu i roddi bod i greadigaethau o'i eiddo ei hunan, trwy, ac eto uwchlaw tiriogaethau ffeithiau a synwyrau corfforol, yn gymaint a gallu i ganfod cyffelybrwydd yn y ffeithiau hyny, i'r gwirioneddau moesol ac ysbrydol a ddygid ganddo gerbron ei wrandawyr. Dychymyg y gymhariaeth yn arbenig ydoedd. Yr oedd yn nodedig o hapus yn ei gymhariaethau, y rhai a gymerid ganddo, braidd yn ddieithriad, oddiwrth bethau ag yr oedd y cyffredin o'i wrandawyr yn hollol gynefin â hwynt, ac oll yn amlwg wedi eu bwriadu nid i addurno y cyfansoddiad, ond i ddwyn y gwirionedd y traethai arno yn nes atynt, ac yn fwy eglur iddynt. Ac felly y cymerid hwynt yn wastadol ganddynt. Er y byddai yn dywedyd llawer o bethau a fuasent yn cael edrych arnynt yn bethau tlysion iawn, pe dywedasid hwynt gan ereill; eto, rywfodd, nid ar eu tlysni y sylwid gydag ef, ond ar bwysfawrogrwydd y materion a eglurid drwyddynt. Ni ogoneddid y gymhariaeth o'i enau ef, oblegid gogoniant mwy rhagorol y gwirionedd a wasanaethid ganddi. Dodi hwnw yn neall, ac yn nghydwybod a chalon y bobl, oedd ei amcan mawr. Dygai bob peth dan ddarostyngiad i hyny. Aberthai bob peth er mwyn cyrhaedd hyny. Ac nid llawer erioed a fuont yn fwy llwyddianus yn y