Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/419

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfeiriad hwnw. O ran symledd, eglurder, naturiolder, ac effeithiolrwydd, yr oedd arbenigrwydd nas anghofir yn ngweinidogaeth William Williams o'r Wern.'

Ystyriwn fod yr hyn a ganlyn o eiddo y Parch. R. Roberts, Rhos, am ein gwrthddrych fel pregethwr, yn hawlio lle yn y benod hon, "O'i gymharu â chewri ei oes, sef John Elias a Christmas Evans, tybiwn mai llinellau gwahaniaethol Mr. Williams arnynt hwy, oeddynt ei naturioldeb, ei graffder, ei dreiddgarwch, ei adnabyddiaeth helaeth o'r natur ddynol, a'i wybodaeth fanwl o'r paham a'r pa fodd. Mewn gair, yr oedd wedi ei eni yn athronydd. Diau fod John Elias yn areithiwr hyawdl, a byddai cyfaredd ei areithyddiaeth nerthol yn swyno ac yn synu y miloedd ar ddydd mawr y Gymanfa, ac yn hyn yr oedd cuddiad ei gryfder. Tra y codai Christmas Evans fel eryr cryf ar edyn dychymyg fywiog i fro y cymylau fry, nes y byddai ei wrandawyr ar adegau yn colli golwg arno, ac nid anfynych y byddai yntau yn croesi llinell chwaeth bur a barn aeddfed, nes y byddai ef ei hun ar ymddyrysu gan mor dewed oedd yr awyr. Ond cerddai Mr. Williams yn arafaidd ac yn urddasol, a chyda nerth cawr, symudai ymaith haenau trwchus anwybodaeth, anystyriaeth, a rhagfarnau dynion. Dangosai i'w wrandawyr natur a chanlyniad pechod, seiliau cyfrifoldeb dyn a'i rwymedigaeth i Dduw. Gogon-