Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/420

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iant yr efengyl fel ffrwyth cariad, bwriad, doethineb a graslonrwydd yr Anfeidrol yn Nghrist Iesu, a'i chyfaddasder i godi dynoliaeth o'r dyfnder isaf i uchder gogoniant, oeddynt y gwirioneddau a eglurai gydag eglurebau mor syml ac agos at y bobl, fel y byddai yr argraff ar eu meddyliau yn annileadwy. Dyma y rheswm yn ddiau fod llawer mwy o'i ddywediadau a'i sylwadau ef yn cael eu cofio na'r eiddo y ddau wr enwog arall. Yr oedd hyawdledd a barddoniaeth Mr. Williams yn ei bethau. Yn ei amser ef bu dadleuon duwinyddol brwd yn Nghymru. Uchel-galfiniaeth a bregethid gan amlaf o'n pulpudau yn y cyfnod hwnw. Cydnabyddir yn awr ar bob llaw gan ddynion teg o bob plaid fod amryw o'r tadau yn eu gorsel, wedi cario yr athrawiaeth a nodwyd i eithafion pell a pheryglus. Ymddangosodd plaid o Galfiniaid mwy gofalus a chymedrol. Gelwid eu daliadau hwy yn system newydd. Credai y rhai hyn yn mhenarglwyddiaeth ac arfaeth Duw, ac etholedigaeth gras, ond rhoddent bwys ar ddyledswydd a chyfrifoldeb dyn, a bod gwahoddiadau yr efengyl yn gyffredinol a didwyll, a bod iawn Crist yn anfeidrol ddigon i gadw pwy bynag a gredai. Bu rhai o hen Galfiniaid culion y cylch hwn yn lled chwerw wrth Mr. Williams am ddwyn o hono y ddysg newydd hon i'w clustiau. Edrychai rhai arno yn fwy na haner heretic, a dywedir y byddai rhai o geidwaid yr athrawiaeth yn rhybuddio eu