Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/421

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pobl rhag myned i wrando arno yn pregethu. Ond ei ddysgeidiaeth ef a orfu, ac erbyn heddyw dysgir hi yn ddiwahardd o bulpudau ein gwlad yn gyffredinol. Yr oedd dylanwad Mr. Williams fel dyn, Cristion, a phregethwr ar ddynion rhyfygus yn y gymydogaeth hon yn anhygoel. Ac er wedi marw, y mae yn llefaru eto. Yn mhen amser maith wedi ei gladdu, dywedai un hen feddwyn ei brofiad ar ol ei ddychwelyd at Dduw, Pan y byddwn,' meddai, 'yn dyfod adref, ysywaeth, dan ddylanwad y ddiod feddwol, byddai pasio mynwent y Wern yn waith anhawdd iawn i mi. Un tro, mi a'i cofiaf byth, fel yr oeddwn yn nesâu at y capel, a phan ar gyfer bedd Mr. Williams, dechreuais ofni, crynu, a chwysu. Tybiwn ei weled fel y gwelswn ef ganoedd o weithiau yn y pulpud, a dychmygwn fy mod yn clywed ei lais yn cymhell dynion i ffoi rhag y llid a fydd. Erbyn hyn, nid oedd nerth ynof. Yr oeddwn wedi llwyr sobri, ond yr oedd dychrynfeydd angeu wedi fy nal, gwewyr marwolaeth wedi fy ngoddiweddyd, a meddyliwn fod cyrff y rhai a hunant yn y fynwent yn sefyll yn eu beddau, ac yn fy hwtio am fy nghaledwch, ar ol mwynhau gweinidogaeth mor odidog. Ymlusgais adref heb wybod sut y gwnaethum hyny, ond teimlwn fy hun wedi fy ngorchuddio gan warth a chywilydd, ac yr oedd yn ffiaidd genyf fi fy hun. Ond llewyrchodd goleuni o'r nef ar fy nghyflwr, ac ni welwyd, ac ni welir, mi a hyderaf, mo honwyf yn pasio mynwent y Wern, nac un lle arall chwaith, yn y cyflwr