Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/422

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw byth mwy.' Wrth wrando profiad y gwr uchod, nis gallesid peidio meddwl am y gwr hwnw a ddadebrodd, wedi i'w esgyrn ef gyffwrdd âg esgyrn Eliseus. Erys enw Mr. Williams yn etifeddiaeth, ac yn symbyliad i ddaioni hyd y dydd hwn. Nid yw Annibyniaeth Gymreig ond ieuanc mewn cymhariaeth yn y cylchoedd hyn. Tua phedwar ugain a deg o flynyddoedd sydd er y planwyd y fesen fach sydd erbyn hyn wedi tyfu yn bren mawr canghenog, ac adar y nefoedd yn nythu yn ei ganghenau ffrwythlawn. Nid oes gylch yn Ngogledd Cymru, lle y mae yr enwad Annibynol wedi gwreiddio yn ddyfnach ynddo, a chael gafael gryfach arno na'r cylch hwn; ac er fod cyfnewidiadau mawrion yn mhob ystyr wedi cymeryd lle, er yr adeg y bu farw Mr. Williams, eto, y mae yr eglwysi yn lluosogi mewn rhif, ac yn amlhau yn eu haelodau, a'r achos drwy ewyllys da preswylydd y berth,' yn myned rhagddo o flwyddyn i flwyddyn. Gwir na bu yn y cylchoedd hyn yr un gweinidog ar ol Mr. Williams, yn meddu ar ei holl nodweddion a'i ragoriaethau ef, ac y mae yn bosibl na bu yr un yn Nghymru chwaith, eto, bu yma o bryd i bryd ddynion gwir ffyddlawn i Grist—awyddus am gadw eneidiau a cheisio llesâd llaweroedd. Gwelodd yr Arglwydd yn dda fendithio eu llafur, fel y gwelir y dydd hwn; ond rhaid cofio ddarfod i bob un o honynt hwy fedi o ffrwyth llafur dibaid William Williams o'r Wern,'