Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/423

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVII.

NODIADAU AR ATHRYLITH EIN GWRTHDDRYCH.[1]

NID hawdd darlunio athrylith na byddo meddianydd y cyfryw wedi dodi un engraifft o honi ar glawr. Mae y neb a geisio wneud hyny yn gorfod gweithio heb un defnydd, ond yn unig yr hyn a fyddo yn ei gof; ac eto, nid oes un dosbarth o ddynion athrylithgar ag y mae cymaint o angen darlunio eu hathrylith a'r rhai sydd heb ysgrifenu dim; canys y mae ysgrifenwyr yn gadael darluniadau mewn argraff ar eu hol o'r peth ydynt mewn gwirionedd, fel nad oes achos ymdrafferthu yn eu cylch. Yr oedd codi y gofgolofn ddiweddar i Dr. Isaac Watts, yn Abney Park, yn ymddangos fel peth hollol ddiangenrhaid, ag yntau eisoes yn cael cymaint o le yn nghof pawb, o'r baban sydd "yn dechreu bloesgi ei wers gyntaf hyd at ddarllenydd goleuedig Malbranche a Locke, yr hwn na adawai natur gorfforol nac ysbrydol heb eu chwilio; yr hwn a ddysgai y gelfyddyd o ymresymu â gwyddoniaeth y ser."[2] Nid oes cystal mantais ychwaith gan y rhai a fuont yn

  1. Ysgrif yw y benod hon o eiddo Caledfryn, yr hon a ymddangosodd yn y Dysgedydd, 1846, tudalen 321—327.
  2. Dr. Johnson.