Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/424

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrando ar y gwrthddrych a ddarlunir i gydfarnu am gywirdeb y darluniad, ag a fuasai ganddynt pe buasai meddylddrychau y cyfryw mewn argraff. Treuliai Mr. Williams o'r Wern ei oes heb ysgrifenu dim o werth sylw erioed; a gesyd hyny ni dan. anfantais i osod ei ardeb yn berffaith gywir o flaen y darllenydd. Colled fawr i'r byd oedd iddo ef fyned drwyddo heb ei fod yn llefaru eto;" nid am ryw ddeng mlynedd ar hugain, neu ddeugain mlynedd mewn oes y mae athrylith i lefaru, ond dylai gael ei thafod yn rhydd fel y clywer ei llais hyd gyfnod trancedigaeth anian. Nid ydys yn ymaflyd yn y gorchwyl o geisio darlunio athrylith Mr. Williams heb ystyried ein bod yn dueddol i farnu llefarwr cyhoeddus yn ol fel y byddo y pethau a draddodo yn taraw ein chwaeth ni, ac yn effeithio arnom yr amser y caffont eu traddodi; gan hyny, rhyfyg fyddai i ddyn, wrth ddywedyd ei farn am bregethwr hoff ganddo ef, geisio honi mai hwnw yw unig a phrif bregethwr yr oes, ac y dylai pawb ystyried ei benderfyniad ef yn oracl ar y pwnc. Onid oes gan eraill hawl i farnu yn y mater yn gystal ag yntau. Onid ydyw pregethwr, fel gwaith awdwr, yn eiddo y cyhoedd? Ac megys y gall yr hwn a bryno lyfr, ei farnu, a chyhoeddi ei feirniadaeth arno, os myn, felly gall yr hwn a wrandawo ar bregethwr adrodd ei farn am dano; ond dylai gofio mai ei farn bersonol ef fydd hyny wedi cwbl, ac fod gan ei gymydog hawl i wahaniaethu