Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/426

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffydd; ond nid oedd dim swyn yn eu dawn na'u dull o bregethu; go sychlyd oeddynt. Ychydig a dramwyent ar hyd y wlad hefyd, nac a newidient â'u gilydd ar y Sabbathau. Byddai y gweinidog Annibynol fel offeiriad yn ei blwyf, a'r bobl o'i gwmpas yn cael newid dawn amryw weithiau yn yr wythnos. Gan nad oedd corff y gwrandawyr yn darllen nac yn meddwl ond ychydig drostynt eu hunain, yr oedd newid dawn bob Sabbath yn cyd-daraw â'u chwaeth yn rhagorol, yn enwedig os byddai digon o gloch yn llais y pregethwr. Nid oedd dim fel hyn i'w gael gyda'r Annibynwyr yn y Gogledd, ond cymerai Mr. Williams ddull gwahanol i'w hen frodyr, ac elai allan i'r prif—ffyrdd a'r caeau; tramwyai y wlad ar ei hyd, ac ar ei lled; pregethai nes synu cynulleidfaoedd mawrion. Bu yr ysgrifenydd yn gofyn iddo pan ar ei daith yn Nghaernarfon ychydig cyn ei farwolaeth, beth fyddai yr hen bobl yn ddywedyd wrtho wrth weled y byd yn myned ar ei ol? "O," ebai yntau dan wenu, "byddent yn dywedyd fy mod i o ngho'." Er yr holl fanteision a grybwyllwyd, y mae'n rhaid addef fod Mr. Williams yn ddyn o athrylith cyn y daethai i'r peth y daeth, o herwydd yr oedd efe megys ar ei ben ei hun yn nghanol yr hen bobl, heb dderbyn ond y gwrthwynebiad penaf oddiwrthynt. Y mae gan bregethwyr ieuainc yr oes hon gynlluniau o'u blaenau, a phob anogaeth i fod yn ddoniol; a pherchir pob