Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/427

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyn ieuanc doniol a theilwng. Yr oedd yr ysgrifenydd yn gynefin â dawn Mr. Williams er pan oedd yn blentyn, ac yn ol yr argraff a adawodd ei athrylith fawr arno o'r pryd hwnw hyd ddiwedd ei oes, y ceisia efe ei ddarlunio yn y llinellau canlynol, ond nid ydyw yn dysgwyl i neb gymeryd ei farn ef fel oracl, bydded i bob un a glywodd Williams o'r Wern farnu drosto ei hun. Y mae pob dyn cyhoeddus yn gyffredin, yn rhagori mewn rhyw beth, ac ni ddysgwylir i holl ragoriaethau y ddaear gyfarfod yn yr un lle. Ond y mae ambell un yn rhagori mewn mwy o bethau na'r llall. Y mae un yn ysgrifenydd da, ond yn areithiwr gwael; un arall yn areithiwr hyawdl, ond yn ysgrifenydd trwsgl; un yn feddyliwr cryf, ond yn adroddwr gwanllyd; un arall yn adroddwr hylithr, ond heb byth ddywedyd dim byd i daraw clust na chydwybod. Anfynych y ceir llawer o wreiddioldeb, meddyliau cryfion, iaith rymus, llais dymunol, agwedd ddillyn, chwaeth dda, a llithrigrwydd dawn yn yr un person. Y mae y naill beth yn gorfod gwneud i fyny am y diffyg o'r llall. Ond y dyn y cyfarfyddo ynddo fwyaf o tagorion gyda'u gilydd yw y tebycaf i fod o fwyaf o ddefnydd cyffredinol na'r hwn a ragoro mewn un peth neu ddau. Nid ydyw dyn o feddwl mawr a chryf heb dafod hylithr, ond mawr iddo ei hun yn unig; y mae fel masnachwr y byddo ganddo gyflawnder o'r defnyddiau mwyaf gwerthfawr, ond