Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/428

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb ffenestr na drws ar ei fasnachdy; nid ellir cael golwg ar ei nwyddau ond drwy yspïeindwll (peep hole). Nid all amryw ond cyrhaedd un gyneddf yn unig o'r enaid, sef y deall, neu y serch; bydd y lleill yn segur, ac bob amser allan o waith, ond bydd pregethwyr sych y deall yn ddig iawn am na baent hwythau yn gallu gwneud mwy gorchest na hyn, a chan nad allant, collfarnant bob un a allo wneud hyny. Dywedai y Parch. Robert Hall mewn cyfeillach, am Barrow fel y canlyn:—"Pregethwr anmherffaith iawn ydoedd. bregethau yn ddarlithiau rhagorol ar anianddysg foesol, ond gallesid eu gwrando gan ddyn am flynyddau heb iddo gael un golwg ar ei gyflwr ei hun fel pechadur, na golygiadau eang ar brif athrawiaethau yr efengyl. Yr oedd ei holl apeliadau yn cael eu cyfeirio at un gyneddf i'r enaid, nid ydoedd efe ond yn anerch y deall yn unig, yr ydoedd yn gadael y serchiadau heb eu cyffwrdd. Dyma yr achos fod ei waith yn cael ei ddarllen gyda'r fath ddiflasdod poenus." Dywedai rhyw un yn y gyfeillach ei fod yn llwyr waghau (exhaust) pob testun a gymerai mewn llaw. "Ydoedd," ebai Mr. Hall, "Ac yn llwyr waghau ei wrandawyr hefyd ar yr un pryd." Gan mai goleuo y meddwl, ac effeithio ar y galon yw rhai o brif anhebgorion pregethu, dylai materion a drinir, a'r dull a gymerir, fod yn dueddol i wneud hyny. Gwaith ofer fyddai treulio amser i ddywedyd llawer