Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/429

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am nerth a rhagoroldeb llong, pe byddai gymaint a'r Great Britain, os yn ngodre y Wyddfa neu y Gader Idris y byddai wedi ei hadeiladu, oblegid ni byddai na gwynt nag agerdd i'w symud oddiyno byth. Yn ei gwaith y mae rhagoroldeb pob llong yn gynwysedig. Ni fyddai dyn o feddwl arddansoddawl Jonathan Edwards, o ddyfnder Dr. Paley, o alluoedd ymresymiadol Andrew Thomson, ac o helaeth rwydd a chylchedd meddwl John Howe, yn bregethwr o fawr o fudd heb gyfran o esmwythder a nerth ieithyddol, darfelyddiad cyfoethog ac eglurhaol, a melusder deniadol yn ei lais. Y mae y llais mwyn, tyner, a chrynedig yn effeithiol; ond os bydd yn cael ei godi yn rhy uchel ac undonol (monotonous), cyll ei effaith ar y glust wrth fynych ddisgyn arni. Y mae y natur ddynol yn hoffi amrywiaeth yn mhob peth; gwell ganddi hi drwst y daran, rhuthriad crynedig y rhaiadr, swn cydgordiol yr afon ddofn, miwsig rhygnog ffrwd y mynydd-dir, neu ymhwrdd y dòn yn erbyn safn yr ogof, neu y clogwyn daneddog na pharhaol ddyferiad mêl o'r graig.[1] Nid lle i ddyn drin llawer ar ei offer gweithio yw y pulpud. Yn y llyfrgell y mae y rhai hyny i gael eu hogi a'u harfer. Gwaith gorphenol a ddylai efe ddangos i'r lluaws. Diflasdod fyddai gorfod gwrando ar y darluniwr medrusaf yn darlithio ar natur y llian i dynu y darlun arno, lliw y paent,

  1. Gilfilan.