Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/430

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nifer y pwynteli, maint y pallet, ac uchder yr easel; gwell fyddai genym weled y darlun na gwrando arno, ac na'i weled yn ei offer. Y mae rhai pregethwyr fel pe byddent yn y llyfrgell yn barhaus, a'r gwaith byth heb ei orphen. Y maent yn meddu agos bob cymhwysder ond y cymhwysder angenrheidiol anhebgorol o fedru y ffordd at y gydwybod. Gwelir hwy yn fawr eu llafur yn ceisio dringo y bryn, ond nid ydynt byth yn gallu cyrhaedd ei gopa, nac yn gallu canfod beth sydd yr ochr arall iddo. Yr oedd gwrthddrych ein sylw ni yn un o'r rhai y cydgyfarfyddodd ynddo fwyaf o anhebgorion pregethwr poblogaidd a buddiol o neb yn ei oes. Un o'r dynion hyny a gyfodir megys bob rhyw gan' mlynedd ydoedd Mr. Williams o'r Wern. Yr oedd yn annichonadwy cynefino â'i ddawn ef, oblegid yr oedd ganddo y fath gyflawnder o feddyliau, ac yr oedd y fath newydd-deb yn ei ddull yn eu traddodi. Nid o'r un llanerch y byddai efe yn edrych ar ei wrthddrychau bob amser, yr oedd yn rhaid iddo gael golwg arnynt o bob pwynt.[1]

Ni waeth i rai pregethwyr beth fyddo y testun, yr un fydd y bregeth, a'u clywed hwy unwaith yw eu clywed hwy am byth, ond nid felly Mr. Williams. Mae golygfeydd gwahanol i'w cael ar y Wyddfa o wahanol fanau; ac y mae yn anhawdd eu darlunio

  1. Gwel Gofiant Seisonig Mr. Williams,