Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/431

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn deg heb fynegu pa sut y mae yn edrych o'r gwahanol barthau y darlunir hi o honynt. un rhan a'i chopa yn weladwy o'r ystafell lle yr ysgrifenir y llinellau hyn, eithr nid allai yr ysgrifenydd ond rho'i darluniad salw o honi oddiyma; ond pe yr elai ar gylchdaith drwy Gapel Curig, Beddgelert, a thrwy Lanberis yn ol, byddai ganddo lawer mwy i'w ddywedyd am dani. Yr oedd Mr. Williams yn Yr oedd yn wr fawr o ran ei alluoedd naturiol. craff, gwelai i egwyddor pob peth a gynygid i'w sylw ar unwaith. Nid oedd neb mwy cymhwys nag ef i'w osod ar y fainc pan fyddai rhyw faterion pwysig i gael eu trafod. Y mae llawer dyn da heb feddu y cymhwysderau hyn i raddau anghyffredin. Y mae llawer dyn duwiol na wnai y tro i'w ddodi ar y fainc. Y mae llawer a ystyrir yn ddynion o alluoedd cryfion na feddant ar gymhwysderau cyffelyb iddo ef yn hyn. Wrth y llyw yr oedd ei le, yr oedd Rhagluniaeth wedi ei ddarparu i hyny; llywodraethai ef heb i neb wybod ei fod yn cymeryd arno y fath waith. Yr oedd ei gynghor a'i gyfarwyddyd o werth mawr. Nid oedd gwell dyddiwr nag ef yn yr oes. Teimlir colled fawr ar ei ol yn ein cymanfaoedd a'n cyfarfodydd o bob natur, oblegid ni adawodd ei gyffelyb ar ei ol. Nid oedd un gangen o wybodaeth fuddiol nad oedd ganddo ef ryw gyfran o honi. Gwnâi bob awdwr a ddarllenai yn eiddo iddo ei hun. Yr oedd pob peth wrth law ganddo yn feunyddiol. Yr oedd efe