Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/432

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel crefftwr cywrain a'i offerynau yn ei gyrhaedd. Y mae llawer gweithiwr da, ond bydd yn hir iawn yn cael hyd i'w bethau. Wrth ymdrin â phob mater hefyd, gwyddai efe yn mha le i'w adael. mae llawer un wedi cael gafael mewn meddylddrych ardderchog yn ei faeddu, ac yn ei anurddo gymaint, fel y bydd yn boen genych wrando arno; nid dywedyd pob peth a wyddai ac a allai y byddai efe, ond detholai y pethau mwyaf pwysig a nodedig yn mhob testun, dangosai y rhai hyny i'w wrandawyr, a gadawai ddigon o le i'r meddwl weithredu. Byddai ei ergyd bob amser ar y gydwybod, ni foddlonai ar oglais tymherau dynion, a gadael y gydwybod yn anargyhoeddedig, ac yn dywyll. Y mae llawer o bregethwyr na feddant un ymgais uwch na chyffwrdd â'r dymher; os gwelant ambell ddeigryn yn treiglo dros ruddiau rhai o'r gwrandawyr, byddant wedi cyrhaedd eu nôd uwchaf; ond nid felly ein cyfaill, achub y dyn o afael y perygl oedd ei amcan ef. Nid oedd neb yn ei oes wedi astudio mwy ar y natur ddynol a thwyll y galon nag ef; byddai yn arfer dweyd, "Y mae natur yn sicr o darawo natur." Yn ei bregethau, dilynai y pechadur i'w holl lochesau, cyfarfyddai â'i holl esgusion, dynoethai ei holl aunoddfaoedd, daliai ef ar bob tir, a gorfyddai fyned yn fud. Byddai cynulleidfaoedd yn plygu fel coedwig o flaen gwynt nerthol yn wyneb dylanwad ei resymiadau anwrthwynebol. Yr oedd ef yn athronydd gwych; galwai