Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/433

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynorthwy holl anian at ei wasanaeth, ac yr oedd pob peth fel yn ufuddhau iddo; nid oedd dim mewn natur na chelfyddyd nad allai efe gael rhyw help oddiwrthynt wrth ymdrin à chyflwr pechadur. Anaml y sylwai ar unrhyw wrthddrych nag ar unrhyw achos, heb dynu rhyw addysg oddiwrtho, Yr oedd ei lygaid yn agored yn mhob man, ac yn mhob amgylchiad. Wrth rodio yn y maes, wrth deithio ar y môr, wrth gerdded heolydd dinasoedd, ac wrth gyfeillachu yn yr ystafell, sylwedydd ydoedd ef, yr oedd yn cymeryd rhywbeth i mewn yn wastadol. Yr oedd natur a chelfyddyd yn gweini fel llaw forwynion iddo yn mha le bynag y byddai. Un gadwyn fawr oedd ei oes; nid ellir dweyd fod nemawr oriau segur wedi myned dros ei ben erioed, yr oedd efe yn wastad mewn gwaith, casglu gwybodaeth oedd ei brif ymdrech, a hyny yn enwedig yn llyfr Duw. Yr oedd efe fel meistr y gynulleidfa yma; plymio i ddyfnderoedd hwn oedd y dyben wrth sylwi ar bob peth arall, yr oedd ei holl wybodaeth mewn pethau eraill yn is—wasanaethgar i hyn. Ni adawodd egwyddor heb ei chyffwrdd, na changen o athrawiaeth heb ei thrafod; ni chymerai bethau mawrion y Beibl yn ganiataol, ond mynai farnu drosto ei hun; chwiliodd y prif awdwyr adnabyddus, tramwyai feusydd helaeth prif dduwinyddion yr oesau, a chloddiai fŵn pur o honynt i'w wrandawyr, a deuai allan mor newydd oddiwrtho a phe na buasai neb erioed wedi meddwl