Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/434

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na dywedyd felly o'r blaen. Nid ydoedd byth yn ymddangos yn yr areithfa fel pe buasai llwyth mawr amrosgo o dduwinyddion ar ei gefn, ac yntau yn cael ei lethu dan y baich, ond ymddangosai yn nghanol y cyfryw yn ymadroddwr ffraethlym, a hwythau fel cedyrn Dafydd yn ei gefnogi. Yr oedd ei dafod fel pin ysgrifenydd buan. Y mae amryw a dawn rhwydd ganddynt i lefaru, ond ni fydd dim o werth ganddynt yn yr hyn a leferir. Clywir llawer a ystyrir yn ddawnus gan y werin yn llefaru, efallai am haner awr neu awr, heb ddywedyd dim i dynu sylw y gwrandawyr gymaint ag unwaith......ond yn hollol i'r gwrthwyneb i hyn yr oedd Mr. Williams; tynai ef sylw y gynulleidfa gyda'i fod yn dechreu llefaru, ac ni fyddai neb na theimlai o dan ei athrawiaeth ef—yr athronydd yn gystal a'r hen wraig ddwl; byddai yr olwg arno hefyd, mor gysurus nes y byddai yn hyfrydwch i'r gynulleidfa edrych arno yn trin ei faterion mor naturiol ac mor hwylus. Yr oedd cymaint o ragor rhyngddo ef o ran dawn a llawer a ystyrir yn boblogaidd, ag sydd rhwng y cerbyd ager ar ffordd Birmingham, a char—llusg ar un o fynyddoedd Eryri. Y mae rhai pregethwyr poblogaidd a'u holl ragoroldeb yn eu dull o draddodi yn unig; pan ddarfyddont draddodi, derfydd yr hyfrydwch; y maent fel pe byddai rhyw swyn yn ysgogiad y llaw, ac yn null y wynebpryd; difyrir y gynulleidfa dan yr athrawiaeth, ond pan eir i