Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/435

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

geisio galw i gof pa beth a ddywedwyd, bydd y cwbl wedi myned i golli. Gallai dyn feddwl ei fod ef yn dal y rhan fwyaf tra yn yr oedfa, ond wrth fyned i adolygu, diflana fel niwl, a phe yr eid i ddarllen pregethau a draddodir dan ddylanwadau fel hyn, ni cheid un math o adeiladaeth ynddynt, nid oes ar y papyr ond y gelain noeth, y mae y bywyd wedi myned i gerdded; ond nid felly Mr. Williams, y pethau a draddodai ef oeddynt yn argraffu ar y meddwl fel nad oedd dim modd eu dileu. Nid ydys yn amheu pe byddai modd casglu ei gynulleidfaoedd ef i'r un lle, na cheid holl bethau rhagorol Mr. Williams yn nghyd rhwng pawb, nid oedd neb gwrandawr na ddaliai ar ryw ranau o'i bregethau, a'r achos o hyny oedd, am ei fod yn ymdrin mwy âg egwyddorion pethau, ac yn trin y rhai hyny yn oleuach na neb yn ei oes. Nid oedd dim gorfodaeth yn ei ddull ef o draddodi. ffordd sy gan lawer i ddwyn y bobl i deimlo yw eu gorchfygu drwy rym llais, a nerth llifeiriant geiriau, ond gweithio yn raddol y byddai ef, ac yn syml—pob peth yn naturiol, nes y byddai dylanwad ei fater drwy ei hyawdledd rhagorol ef, yn disgyn fel gwlith, a'r dagrau tryloywon yn llithro dros bob grudd. Ni flinai efe byth y gynulleidfa â hirfeithder a sychder diflas; ystyriai hwnw yn ergyd rhy ddrud y costid dal y gwrandawyr am awr neu awr a haner i ddysgwyl am dano; byddai efe yn ngafael â'r bobl yn ddiatreg, ac yn dywedyd i bwrpas