Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/436

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrthynt. Ni chaent amser i edrych o'u deutu, nac i feddwl mai wrth ryw rai eraill y byddai efe yn llefaru, ond byddai pob un drosto ei hun yn sylwi am ei fywyd ar yr hyn a leferid. Y mae llawer pregethwr y cewch dri chwarter awr o amser y bregeth ganddo i brynu a gwerthu, planu ac adeiladu, ac i deithio môr a thir, ond nid felly Mr. Williams. Yr oedd eglurder ei ddawn yn nodedig hefyd. Ni fyddai byth yn ymwisgo mewn cymylau, nac yn dwyn ei wrandawyr i niwl a thywyllwch. Ni ddywedid wrth ddyfod o'i wrando ef, y mae efe yn bregethwr dwfn iawn, ond canmolid ef gan bawb am ei eglurder. Yn ymyl ei wrandawyr yr oedd efe o hyd; pregethu ar yr Iawn, ac ar Gyfiawnhad pechadur, fel y gallai yr hen wraig ei ddeall yr ydoedd. Os soniai rywbeth am allu a doethineb Duw fel crewr y byd, nid pensyfrdanu dynion drwy ddywedyd wrthynt am faint Jupiter, Mercury, a Sadwrn yr ydoedd, a'u byddaru drwy son am eu troadau a'u pellder oddiwrth eu gilydd, &c., ond yr ydoedd fel math o delescope—tynai y pethau hyn i ymyl y dyn, gael iddo gael cyfleusdra i farnu drosto ei hun, a rhyfeddu doethineb a gallu Duw yn y cwbl. Nid oes dim haws na dallu y werin anwybodus os arferir geiriau swnfawr, ac os sonir digon am bethau uwchlaw eu hamgyffred, fel nad allant ffurfio un math o farn am danynt, ond eu goleuo yr ydoedd ef, gwneud athronydd o'r bugail ar lethr Cader Idris, a duwinydd o'r cloddiwr yn