Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/437

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ngodre y Wyddfa. Pregethu etholedigaeth nes yr oedd pawb yn ei chofleidio, a rhwymedigaeth foesol nes y gorfyddai waeddi allan, "Och fi, darfu am danaf."

Yr oedd ei gymhariaethau hefyd yn naturiol ac yn agos, llewyrchent ar feddwl y gwrandawyr mewn amrantiad. Gwael yw y gymhariaeth y bydd eisieu ei hesbonio; ac os dygai ffraethair i fewn i daflu goleuni ar rywbeth, nid fel ffwl y ffair (Merry Andrew) y gwnai hyny i gynhyrfu uchel-chwerthiniad ynfyd a llygredig; ei ddywediad bob amser am ffraethair oedd y dy esid ei arfer fel halen. gyda bwyd. Y mae ambell un yn boblogaidd yn mysg y werin anwybodus ar y cyfrif ei fod yn ddigrif, ac yn dywedyd hen storïon i beri chwerthin; ond ffieiddir y cyfryw gan y duwiol a'r dysgedig. Nid lle i gellwair yw y pulpud, sobrwydd a difrifoldeb oedd yn nglŷn â phob peth o eiddo ein cyfaill ymadawedig. Arferai eiriau lled arw weithiau, yr hyn a fuasai yn anfaddeuadwy mewn eraill, ond yr oedd ganddo ef gynifer o bethau rhagorol i orbwyso hyny, fel yr oeddynt yn gweddu iddo; ond ni fyddai efe byth yn isel nac yn ddifoes. Y mae amryw yn yr areithfa gyda phob enwad mor isel ac mor ddifoes fel y gallai y gwrandawyr dybio eu bod hwy wedi preswylio yn nghymdeithas eurychod a 'sgubwyr mwgdyllau ar hyd eu hoes; bydd y rhan fwyaf tyner o'r cynulleidfaoedd yn gwrido wrth eu gwrando, a phob dyn o chwaeth yn ei