Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/438

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffieiddio; ond gwelid y gwr boneddig a'r dyn a chwaeth ynddo ef yn nghanol yr iaith fwyaf bratiog a arferai, byddai ei feddylddrychau yn gywir ac yn darawiadol. Y mae llawer o ddynion o ddoniau hyawdl, a'u doniau yn drech na'u barn; cymerant eu cipio ganddynt i siglenydd a chorsydd nes y byddant wedi glynu yno, ac yn methu gwybod y ffordd i droi yn ol; ond nid felly Mr. Williams. Nid oedd neb cywirach o ran ei farn nag ef; yr oedd yn fwy felly, ysgatfydd, nag odid bregethwr poblogaidd yn ei oes. Gochelai ormod o wylltineb dychymygol ar un ochr, a phendantrwydd a sicrwydd anffaeledig o'r ochr arall; ymdrechai hwylio ei gerddediad ar hyd canol llwybr barn. Yr oedd ganddo ddawn ehediadol rhagorol hefyd; yr oedd yn gynefin iawn, gallesid tybio, â phreswylwyr y fro anfarwol. Dywediad un gwr am dano oedd, wedi ei glywed yn pregethu am y "Wlad well," ei fod wedi son cymaint am Abraham, Isaac, Jacob, &c., nes yr oedd ef yn meddwl ei hun wedi dyfod yn eithaf cydnabyddus â hwynt. Yr oedd ei ddarluniadau bob amser yn naturiol ac yn nerthol; yr oedd yn fath o Raphael Cymreig ac yn Filton Ni anghofir byth, mae yn ddiamheuol, ei bregeth ragorol ar Fawredd Duw gan y canoedd a'r miloedd a'i clywsant. Yr oedd hono y darluniad mwyaf ardderchog o ddim a glywyd yn yr iaith. Y mae ei bregeth ar y "Wlad well" hefyd yn meddyliau miloedd; tybiodd llawer, wrth ei glywed