Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/439

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn traddodi hono yn Nghymanfa Llanerchymedd, eu bod hwy wedi eu cipio i dalaeth uwchlaw y ddaear hon, yr oeddynt yn debyg o ran eu dymuniad i Pedr ar fynydd y gweddnewidiad, pan ddywedai, "Gwnawn yma dair pabell." Ei bregeth ar Barodrwydd Duw i faddeu oedd yn ddigon effeithiol i doddi y gareg; ac ugeiniau eraill a allesid eu crybwyll. Nid ydyw Cymru eto wedi dangos rhagorach dyn yn mhob peth na Mr. Williams. Dichon y gellid cael rhesymydd cadarnach nag ef mewn un, duwinydd mwy dyfn—dreiddiol ac arddansoddawl (metaphysical) nag ef yn y llall, gwell dychymygwr nag ef yn y trydydd, a threfnusach areithiwr nag ef yn pedwerydd; ond gallai na fyddai ond un o'r rhagoriaethau hyn wedi dyfod i ran yr un person; ond yr oedd ef wedi cyrhaedd cymaint o wybodaeth a medrusrwydd yn yr holl bethau a grybwyllwyd ag a'i gwnaeth yn bregethwr goleu, effeithiol, defnyddiol, a llwyddianus. Yr oedd y pethau hyn i raddau anghyffredin hefyd ynddo. Pan eir i dynu y llinell rhwng y naill a'r llall, y mae gormod o duedd ynom i benodi ar ryw un cymhwysder mewn pregethwr, ac i'w gyhoeddi yn flaenaf o bawb ar y cyfrif hwnw yn unig; ond mwy teg fyddai chwilio hyd a lled, uchder a dyfnder y cyfryw, ac edrych pa faint ydyw o fesur sylweddol. Gall dyn fod yn rhesymwr cryf heb ddim yn neillduol ynddo i dynu sylw y cyffredin. Nid cynulleidfaoedd o ymresymwyr dysgedig sydd genym yn Nghymru. Gall