Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/440

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall fod yn un arddansoddol, a byddai yn briodol iddo, efallai, arfer ei fedrusrwydd yn hyn, pe caffai gynulleidfaoedd o alluoedd Edwards o'r America, John Howe, Robert Hall, a Dr. Wardlaw, i'w wrando. Dichon un arall fod yn gryf ac yn fywiog o ran ei ddychymyg, ond os na fydd ganddo rywbeth heblaw hyny ni phorthir dim llawer ar ei gynulleidfa â gwybodaeth ac â deall. Nid all dynion fyw ar flodeu, ebai Robert Hall. Gall dyn fod yn areithiwr trefnus, celfyddgar, a manwl, yr hyn sydd ganmoladwy; ond efallai pe byddai y pethau a ddywedid wedi eu dodi ar bapyr y byddent mor anhrefnus a'r tryblith ei hun. Y mae tramynychiad o'r un peth yn cael ei ddywedyd gan areithwyr o'r fath yma; sef, dynion nad ydynt wedi ymgeisio at ddim ond trefnusrwydd ymddangosiadol yn eu hareithiau. Ychydig o feddylddrychau a geir ganddynt, a'r ychydig hyny yn rhai cyffredin a gwael yn fynych, ond fel y byddont hwy yn eu gweithio i fyny â'u dawn, eu hamneidiau, ac âg ystumiau y corff. Nid ydoedd Mr. Williams wedi mabwysiadu unrhyw ffurf i'w dilyn wrth draddodi o ran dull; nid oedd unrhyw ragfwriad i'w weled yn ei ddullwedd; nid oedd ganddo unrhyw arwyddion ffordd yn amlwg i'r gynulleidfa, na chanllawiau i gerdded rhyngddynt, ond yr oedd pob peth yn naturiol. Yr oedd fel llong yn nghanol y môr a f'ai yn cymeryd ei hysgogi gan y gwynt a'r llanw. Pan elai i