Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/441

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddywedyd am bechod a'i ddrygedd, yr oedd rhyw awdurdod anarferol yn cydfyned â'i eiriau, yr oedd oll yn gyffro santaidd; ond ei destun hoff oedd Dyoddefiadau y Cyfryngwr, dyna y lle y byddai gartref. Calfaria oedd y man y dymunai sefyll arno i gyhoeddi gwaredigaeth i fyd o golledigion, ond os äi i Sinai, yr oedd y mynydd yn mygu, taranau yn rhuo, mellt yn llewyrchu, ac yntau oddiar ei gopa, fel mab y daran, yn cyhoeddi y melldithion uwchben yr anwir, nes y byddai y pechaduriaid caletaf yn crynu; ond pan äi i gopa y bryn lle yr hoeliwyd ysgrifenlaw yr ordeiniadau, i son am bigau y goron ddrain, llymder yr hoelion, y tywyllwch, y ddaeargryn, dolefiadau y Cyfryngwr, "A'r gwaed yn llifo ar y groes," byddai pawb wedi cydymollwng mewn ffrydiau o ddagrau. Rhoddai efe foddlonrwydd cyffredinol i bawb, yr oedd ganddo rywbeth i bob math a chyflwr. Caffai yr athronydd a'r diddysg wledda ar yr un bwrdd ganddo ef, oblegid yr oedd ganddo y fath gyflawnder o amrywiaeth. Un mawr ydoedd mewn haelfrydedd; nid oedd byth am orfodogi neb i fod o'r un farn ag ef mewn athrawiaeth na dim arall. Casai y golygiadau cul a rhagfarnllyd goleddir gan lawer o broffeswyr o wahanol enwadau am eu gilydd, a gwnaeth ei oreu drwy ei oes i ladd pob teimladau annymunol felly. Rhoddai ddeheulaw cymdeithas i bawb a welai am wneud daioni i eneidiau pechaduriaid, gan nad i ba