Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/442

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enwad y perthynent, a phregethai Iesu Grist wedi ei groeshoelio yn mhob addoldy y caffai efe ei ddrws yn agored i'w dderbyn. Y mae rhai yn ei hystyried yn beth mawr a phwysig eu cael hwy, neu yr enwad y perthynant iddo, i gydnabod proffeswyr o enwadau eraill yn saint, fel pe byddai iechydwriaeth eneidiau y cyfryw yn dibynu ar y meddyliau fydd ganddynt hwy am danynt, ond y mae y cyfryw o ysbryd gwahanol iawn i'r diweddar Mr. Williams o'r Wern. Dangosodd ef ei hun yn nghychwyniad ei weinidogaeth yn wr rhydd, caredig, o'r nifer hyny sydd yn tybied eu gilydd yn well na hwy eu hunain. Pan ddaeth llwyrymataliaeth i Gymru, bu ef yn gymedrol iawn yn ei nodiadau. Yr oedd pob peth a ddywedai yn tueddu yn hytrach i enill dynion at yr egwyddor nag i'w tarfu oddiwrthi. Yr oedd am i'r egwyddor lwyr—ymataliol sefyll ar ei sylfaen ei hun, ac nid ei chymysgu â'r efengyl; nid oedd yn foddlawn ei gwneuthur yn amod derbyniad i'r eglwys, nag yn gymhwysder (qualification) i'r areithfa. Dywedai wrth gyfaill oddeutu mis cyn marw fel hyn:—"Nid oes genyf fawr o feddwl am y pregethwyr oeddynt yn eu swydd, ac yn meddwi, fod dirwest wedi rhoi principle newydd iddynt; ond dynion ag oeddynt yn feddwon, ac a aethant yn ddirwestwyr, a ddaethant yn broffeswyr, y mae genym gymaint o feddwl am y cyfryw a neb." Ni welid byth mo hono yn arfer un math o dwyll na hoced