Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/443

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i geisio dyrchafu ei hun. Nid ei hunan oedd ganddo mewn golwg, ond gogoniant Duw a lles pechadur. Yr oedd yn foddlawn i ddwyn ei holl gofnodau goruwchafiaeth (trophies) at droed y groes, i gysegru pob dawn a dylanwad a feddai at ogoniant ei Feistr. Yr oedd yn hawdd ei drin. Y mae ambell hen bregethwr na chyrhaeddodd erioed y filfed ran o ragoriaethau na defnyddioldeb Mr. Williams, y byddai yn haws i chwi gael ymddyddan â'r Tywysog Albert nag ag ef. Y mae wedi ei chwythu i fyny â meddyliau mawr am dano ei hun, a bydd raid i bawb nesâu i'w wyddfod fel y bydd caethion yn myned o flaen eu gormeswyr; ond fel plant yn nesâu at eu tad y nesâi pregethwyr ieuainc at Mr. Williams. Byddai fel un o honynt, pob gwahaniaeth wedi ei golli, i raddau mawr, ac yntau yn gwneuthur ei hun yn hyfryd yn y gyfeillach. Nid oedd yr holl godiad a'r dyrchafiad oedd yn gael wedi effeithio arno er niwed, ond yr oedd efe yn gydostyngedig â'r rhai iselradd. Nid oedd neb yn fwy rhydd nag ef ychwaith oddiwrth goeg—ysgolheigiaeth. Yr oedd efe yn fwy dysgedig o lawer nag y cymerodd arno fod erioed; gallesid meddwl wrth edrych ar ei ddiofalwch gyda'r Gymraeg a'r Saesonaeg, nad oedd ei wybodaeth yn hyn ond canolig; ond yr oedd y neb a dybiai hyny yn llafurio dan gamgymeriad; nid arwyddion dyn annysgedig oedd ar ei bregethau; ei feddylddrychau ef, mae yn wir, oedd fwyaf yn y golwg; ychydig a