Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/444

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymdrafferthai yn nghylch y dull o'u gosod allan, ond gwelid arwyddion o athrylith a dysg yn mhob peth yr ymdriniai efe ag ef. Y mae llawer, os byddant wedi cyrhaedd gradd o fedrusrwydd i osod geiriau wrth eu gilydd yn lled reolaidd ac ysgolheigaidd yn Gymraeg neu Saesonaeg, yn meddwl fod y gwaith ar ben, pe byddai y darnau a gyfansoddant mor amddifad o athrylith ag yw copa y Wyddfa; ond nid ymdrafferthai Mr. Williams gymaint gyda'r wisg; mynai ef egwyddor i'r golwg; y mae yn wir y gallasai efe dacluso mwy ar amryw o'i ymadroddion, ond gwell oedd ganddo gloddio mŵn i'w wrandawyr, er ei fod yn lled arw weithiau, na cheisio eu difyru âg ymddangosiad o beth. Nid ydoedd efe yn ymdrafferthu byth i gael gan y werin dybied ei fod yn dduwiolach nag ydoedd mewn gwirionedd; yr oedd yn berffaith rydd oddiwrth rodres a hoced. Nid ymadawai âg un teulu, lle y dygwyddai letya, heb fod yn eu meddyliau ryw barch anarferol tuag ato. Ystyrid ef gan bawb yn ddyn didwyll, a'i ymgaisam wneuthur llesad. Yr oedd pwys yn ei gymeriad, pa le bynag y byddai, fel nad oedd angen arno am ffug ymddangosiadau. Trwy ei fod yn wr o dymherau siriol a rhydd, prin yr ystyrid ef yn dduwiol gan rai rhagfarnllyd o wahanol farn iddo gynt; byddent yn dywedyd ei fod ef "yn pregethu yn rhy iach o ran ei ysbryd; ac mai dyn heb wybod dim am ddrwg pechod ydoedd." Caffai wrandaw-