Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/445

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iad mawr y pryd hwnw; ond yr oedd y bobl graff hyny sydd yn gwybod mor sicr pwy sydd yn dduwiol, a phwy sydd heb fod, yn foddlawn iddo yntau gael bod yn dduwiol er ys blynyddau bellach. Bu ei godiad yn foddion i roi ail fywyd yn achos yr Annibynwyr yn Ngogledd Cymru. Adfywiwyd yr hen eglwysi a phlanwyd eglwysi newyddion. Llafuriodd yn ngwyneb digalondid; a goddefai lawer gair bach oddiwrth amryw o'i hen frodyr, hyd nes o'r diwedd y gorchfygwyd eu rhagfarn trwy lafur di-ildio. Y peth tebycaf i fai ynddo oedd treulio cymaint o'i feddianau bydol i gynorthwyo eglwysi yn eu diogi a'u diffrwythder. Y mae gwneud hyn yn tueddu yn ddrwg bob amser, yn mhob man, lle y byddo dynion yn alluog i wneud rhywbeth at yr achos. Y mae pobl mor wirionllyd ac mor gybyddlyd mewn eglwysi, nes yr ystyrient "hi yn fraint" i ddyn gael talu o'i boced ei hun am gael pregethu iddynt. Y mae yn debygol nad ydoedd Rhagluniaeth wedi ei fwriadu ef i fod yn yr un fan am ei oes, ond yr oedd i fod yn ddefnyddiol yn gyffredinol. Y mae anhawsder mawr ar ffordd dynion fyddo yn teithio llawer i lafurio llawer; y maent, yn gyffredin, yn byw ar hen bethau, ac yn myned dros y pethau hyny yn barhaus; gwyddir am rai pregethwyr poblogaidd yn traddodi yr un bregeth ar ddeuddeg o wahanol destynau, yn yr un addoldai, ac i'r un pobl! ond nid felly y byddai Mr. Williams. Gan nad pa mor