Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/446

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fynych y deuai efe i'r un fan, byddai ganddo bregeth newydd bob amser, a meddylid wrth ei wrando na lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. Y mae yn ddiamheuol fod canoedd o wrandawyr a saethau a daflwyd oddiar ei fwa ef yn eu cydwybodau hyd y dydd hwn. Llafuriai lawer i geisio dangos yr angenrheidrwydd o grefydd deuluaidd, ac ni fu ei lafur yn ofer. Cafodd weled ei blant ei hun gyda chrefydd, a bu ei gynghorion yn fendith i filoedd. Syrthiodd i'r bedd yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Yr oedd efe yn canlyn, neu yn hytrach yn blaenu yr oes yn ei gwelliantau ac yn ei chyfnewidiadau. Ni bu erioed yn fwy defnyddiol nag oedd yn ei ddyddiau diweddaf. Yr oedd ei arfogaeth am dano. Ni bu cwmwl ar ei gymeriad. Ni wnaeth aberth erioed ar egwyddor i brynu ffafr neb, nag i enill gwên ei uwchafiaid; ond safai at ei egwyddorion dilynai y llwybr oedd Rhagluniaeth wedi dori iddo, ac fel Ymneillduwr cydwybodol, yn ddiwyrni hyd y diwedd. Y mae llawer un defnyddiol ar y maes na fyddai y golled am dano ond lleol, ond teimla Cymru oll ar ei ol ef. Efe oedd prif golofn ein Cymanfaoedd am flynyddau; ystyrid y cyfarfodydd megys drosodd wedi y llefarai ef, oblegid yr oedd ynddo gynifer o ragoriaethau wedi cydymgyfarfod. Yr oedd ei boblogrwydd ef o'r iawn ryw; canys yr oedd felly yn nghyfrif prif wrandawyr yr efengyl yn Nghymru, sef y rhai mwyaf dysgedig a gwybodus o'r cynulleidfaoedd, a pherchid ef gan