Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/447

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr anwybodus sydd yn meddwl fod poblogrwydd dyn yn gynwysedig mewn llais ac agwedd gorfforol yn unig. Yr oedd ynddo rywbeth ar gyfer pob gradd ac oedran; ac y mae ei goffadwriaeth yn anwyl gan bob graddau, a chan dduwiolion o bob enwadau." Diangenrhaid yw unrhyw esgusawd o'r eiddom ni, yn rheswm dros ein gwaith yn adgyhoeddi yr ysgrif hon o eiddo beirniad mor graff, ac ysgrifenydd mor fedrus ag ydoedd Caledfryn.