Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/448

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVIII.

NODWEDDAU PREGETHWROL EIN GWRTHDDRYCH, GAN DRI O DYSTION.

Y CYNWYSIAD.—Ysgrif y Parch. David Morgan, Llanfyllin— Anerchiad y Proff. H. Griffith, F.G.S., Barnet—Nodiad gan Dr. David Roberts (Dewi Ogwen), Wrexham

NIS gallwn ymatal heb roddi yma yr hyn a ganlyn o eiddo y Parch. David Morgan, Llanfyllin, am ein gwrthddrych, allan o Hanes Ymneillduaeth, tudalen 551—555—"Ymdrechwn daflu ychydig berarogl ar allor coffadwriaeth ein cyfaill ymadawedig; oblegid nid oes neb yn bresenol (1855) a gyddeithiodd fwy gydag ef drwy Gymru a Lloegr na ni. Cawsom gyfle i adnabod ysgogiadau a gweithrediadau dirgel ei feddwl, a gwahanol dueddiadau a theimladau ei galon, yn ngwyneb gwahanol amgylchiadau a'i cyfarfyddodd. Nid oedd Mr. Williams yn un anhawdd ei adnabod; oblegid yr oedd yn ddyn syml, ac yn Gristion unplyg. Nid oedd unrhyw dwyll na hoced yn perthyn iddo, ond byddai ei olwg, ei eiriau, a'i ymddygiad, yn arddangosiad gwir o egwyddorion ei galon. Yr oedd ei hynawsedd, ei addfwynder, ei ffyddlondeb, a'i gydym-