Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/449

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deimlad parod, ac yn enwedig tynerwch ei gydwybod, a'i ofal mawr rhag pechu yn erbyn yr Arglwydd, yn ei wneud yn gyfaill hoffus a rhagorol. Hoffai gyfeillgarwch yn fawr, ac yr oedd mor barod i dderbyn cynghor daionus ag ydoedd i gyfranu. Gallai un ymddiried ynddo, a thywallt ei holl deimladau i'w fynwes, heb ofni unrhyw niwed mewn canlyniad. Yr oedd yn fawr ei ofal am fod yn un â'i air. Yr oedd ei feddwl mor doreithiog o bethau daionus, fel yr oedd ei gyfeillach yn fuddiol, adeiladol, a hyfryd, i'r Cristion profiadol. Cydgyfarfyddai y fath amrywiaeth o ragoriaethau yn ei nodweddiad fel Cristion a phregethwr, fel mai annichonadwy yw tynu darlun cywir o hono. Yr oedd yn un gwir fawr a boneddigaidd, heb ddim coegni, mursendod, na hunanoldeb yn perthyn iddo. Arferai fyw yn dduwiol iawn, ac agos at Dduw, heb wneud ymddangosiad ffugiol o hyny. Yr oedd yn siriol, heb fod yn ysgafn a chellweirus. Ceryddai yn llym yr hyn a farnai yn feius, a hyny heb fod yn sarug a chwerw. Daliai i'w godi a'i fawrhau heb ymchwyddo ac ymddyrchafu yn ei olwg ei hun. Pan y byddai tyrfaoedd mawrion yn ymdyru i wrando arno, hyd na annent yn yr addoldai helaethaf, a phan y caffai yntau hwylusdod i draethu y genadwri nes y byddai yn gwneud yr argraff ddwysaf ar feddyliau y gwrandawyr, ni chlywid byth mo hono yn clochdar ar ol hyny. A phan y cyfeirid at hyny