Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/450

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn ymddyddan, byddai mor bell o ymddyrchafu, fel y byddai yn ymsuddo i'r llwch, gan ddywedyd, "Pwy ydym ni pan y gwneid felly â ni? Nid i ni, nid i ni, ond i arall y mae y mawl yn ddyledus." Nid oedd Mr. Williams mor helaeth darllenwr ar weithiau dynion a llawer; ond yr oedd yn astudiwr mawr ar naturiaeth, anianyddiaeth, Rhagluniaeth a'r Beibl; ac yr oedd o feddwl mor fywiog, cyflym, a gweithgar, fel y medrai sugno gwybodaeth o bob peth a'i hamgylchynai. Pa destun bynag yr ymaflai ynddo, treiddiai iddo yn gyflym nes ei ddeall, trwy ryw ddarluniau neu gilydd, a hyny yn lled ddiboen a didrafferth i olwg eraill. Er fod Mr. Williams yn Ymneillduwr cydwybodol, ac yn bleidiwr gwresog i egwyddorion Annibyniaeth mewn trefn a llywodraeth eglwysig; eto yr oedd yn mhell o fod o ysbryd cul a rhagfarnllyd tuag at eraill o wahanol olygiadau iddo, a gallasai ddweyd yn hyf, "Cyfaill wyf fi i'r rhai oll a'th ofnant." Dangosodd hyn yn eglur yn ei barodrwydd i fenthyca ei ddoniau, ei dalentau, a'i amser, i wasanaethu enwadau eraill pan alwent am danynt. Ni adwaenem un yr oedd achos y Gwaredwr, ac achubiaeth eneidiau yn gorphwys yn ddwysach ar ei feddwl na'n cyfaill ymadawedig; na neb parotach i aberthu ei gysuron, ei esmwythder, ei elw, a'i lesiant personol, i ddwyn yn mlaen yr amcanion hyny. Amlygodd hyn drwy ei ymglymiad gwirfoddol â'r achos goreu yn gyffredinol;