Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/451

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oblegid teithiodd lawer, a llafuriodd yn ddibaid i'w ddwyn yn mlaen, nid yn unig yn y lleoedd hyny oedd dan ei ofal neillduol, ond yn mhob man y gelwid am ei gymhorth, yn enwedig yn Ngogledd Cymru. Pan yn teithio o'r naill le i'r llall, nid teithio fel pregethwr yn unig y byddai, ond byddai mewn llafur am lwyddiant yr achos yn y lleoedd yr ymwelai â hwynt, fel y gwnai ei hun yn bobpeth i hyny. Un parod i bob gweithred dda ydoedd, er y byddai y cyflawniad yn aml yn gofyn aberth lled fawr oddiwrtho. Y mae y nifer mawr o addoldai y bu ganddo law mewn cysylltiad âg eraill i'w hadeiladu, a'r canoedd punau a dalwyd o'u dyledion trwy ei offerynoliaeth ef, yn brawf eglur o hyn. Y mae lluaws yn teithio llawer yn mhell ac agos i bregethu, ond dangosent yn eglur mai traddodi y bregeth ydyw y cwbl; nid oes ynddynt na phryder na gofal, ac ni wnant unrhyw ymdrech i godi achos crefydd mewn lleoedd gweiniaid, na dangos y parodrwydd lleiaf i anturio i unrhyw draul ac ymrwymiad personol i adeiladu addoldai, na rhoddi dim help mewn lleoedd y byddo gwir eisieu cymhorth. Nid un felly oedd ein cyfaill ymadawedig. Aeth yn mlaen drwy lafur caled, a thros fynyddau o rwystrau, heb un golwg am na thâl na gwobr oddi—wrth ddynion am ei wasanaeth; ond gweithredai mewn ffydd, gan ymwroli fel un yn gweled yr Anweledig. Llawer gwaith y dywedodd pan y clywai fod rhyw gwmwl tywyll wedi ei ddwyn