Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/453

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galon. Yr oedd yn fedrus yn holl ranau gwaith yr areithle. Yr oedd yn fedrus yn nghyfansoddiad ei bregethau—safai ar brif bwnc ei destun, ac elai i mewn i ysbryd ei destun. Yr oedd yn fedrus ac yn dlws yn ei frawddegau a dewisiad ei eiriau; ac ymdrechai ar fod ysbryd ei bwnc, a theimladau ei galon, yn cydlewyrchu â'i ymadroddion, fel y byddent yn danllyd ac yn enynol i feddyliau eraill. Dywedai yn fynych, "mai pregethau diwaed byw ynddynt oedd pregethau amddifad o'r peth hwn.' Byddai ganddo nôd neillduol i gyrchu ato yn mhob pregeth, ac ymgadwai at un llinell o ymdrafodiad er cyrhaedd y nôd hwnw. Dywedai yn aml ei fod yn gofidio yn fawr wrth glywed pregethwyr yn pentyru geiriau mawreddog ar eu gilydd, na wyddai neb pa nôd a fyddai ganddynt mewn golwg, na pha deimlad daionus a amcanent gynyrchu drwyddynt. Cyffelybai efe bregethu o'r natur yma i "ddyn mewn llestr ar y môr, heb yr un llyw, nac aber mewn golwg yn unman; ac er ei holl ymdrech a'i orchest yn wyneb y tònau, nid oedd fawr o debygrwydd y byddai y fordaith hono o fawr o elw nac o gysur i neb; felly yn neillduol y mae pregethau diamcan." Er fod ein cyfaill yn traddodi ei bregethau yn frwdfrydig, ac yn llawn o deimladau bywiog a thanllyd; eto, yr oedd ganddo feddiant a llywodraeth gyflawn arno ei hun yn ei holl eiriau, ei ddull, a'i ysgogiadau. Pregethai oddiar adnabyddiaeth helaeth o hono ei hun,