Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/454

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o bla ei galon, o druenusrwydd ei gyflwr wrth naturiaeth, ac o dueddiadau ei natur anmherffaith ei hun, fel yr oedd yn alluog i bregethu i eraill yr hyn a deimlent yn brofiadol. Prif ganolbwynt ei bregethau oedd "Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." Dygai allan ei holl athrylith, a holl drysorau ei wybodaeth, i osod allan Iesu Grist yn mawredd ei berson fel digonol Geidwad i bechaduriaid. Gwnai yr Arglwydd Iesu yn bobpeth yn nghadwedigaeth pechaduriaid. Gosodai allan nad oedd cyflawniad o unrhyw ddyledswydd o un gwir lesâd i neb, oni byddent yn seiliedig arno Ef a'i aberth; ac mai y peth cyntaf oedd i bechadur wneud oedd ei dderbyn, a ffoi ato am ei fywyd. Nid yn unig yr oedd ei fedrusrwydd fel pregethwr yn dyfod i'r golwg yn ei ddull yn medru pregethu athrawiaethau dyfnaf yr efengyl mewn eglurdeb, ond hefyd yr oedd yn gallu eu pregethu yn eu cysylltiad â rhwymedigaeth i fywyd santaidd, ac ymarferiadau crefyddol, a'u dylanwad bywiol i gynyrchu y pethau hyn yn mhawb a'i hadwaenent. Nid oedd graslonrwydd athrawiaethau yr efengyl yn cael eu cuddio o'r golwg ganddo wrth osod i fyny rwymedigaeth dynion i'r dyledswyddau gorchymynedig; ac ni theflid o'r neilldu ddyledswyddau crefydd, er i raslonrwydd y nef ymddysgleirio; ond cydlewyrchent yn hardd yn ei weinidogaeth bob amser. Ni adwaenem neb yn medru pregethu y ddeddf yn ei hundeb â'r efengyl yn fwy goleu,