Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/455

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na phregethu yr efengyl yn fwy gogoneddus mewn cysylltiad â deddfau y nef. Un hynod o fawr ydoedd mewn gweddi. Er na byddai ond byr yn ei weddiau cyhoeddus, fel y byddai yn gyffredin yn ei holl gyflawniadau crefyddol; eto, yr oedd ddifrifol ac yn gymhwysiadol iawn ynddynt bob amser. Yr oedd braidd uwchlaw neb a wyddom am fedru dweyd llawer mewn ychydig eiriau, ac mewn ychydig o amser. Yr oedd fel pe buasai yn pregethu gyda phelydr y goleuni a gwres yr haul. ....... Dywedir am Mari, brenhines Lloegr, ei bod yn dweyd cyn marw, pe byddai iddynt edrych ar ei chalon ar ol ei marwolaeth, y caent weled Calais yn argraffedig arni. Gellir dywedyd fel hyn am Mr. Williams, ond gyda mwy o sicrwydd, fod llwyddiant ac achubiaeth eneidiau yn argraffedig yn ddwfn ar ei galon, oblegid hyny oedd yn llenwi ei holl feddyliau wrth fyw, a'i holl ymddyddanion wrth farw."

Trwy ganiatad parod y Parch. Owen Jones, M.A., gynt o'r Drefnewydd, ond yn awr o Oakland, Cal., U.S.A., rhoddwn yma y dyfyniad canlynol allan o "Some of the Great Preachers of Wales," tudalen 344—351. Da genym allu cyflwyno i'r darllenydd y dyfyniad a ganlyn o araeth a draddodwyd gan y Parch. Athraw Henry Griffith, yn nghyfarfod yr haf, 1882, yn Ngholeg Cheshunt, "Drwy gysylltiadau teuluaidd pur ffodus, dygwyddodd i mi yn fy mywyd boreuol weled cryn lawer ar