Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/456

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr enwog Williams o'r Wern, enw llai adnabyddus yn Lloegr nag allesid ddymuno, ond enw teuluaidd drwy hyd a lled y Dywysogaeth, ac yn fy marn ostyngedig i, yr oedd yn anghymharol fwy effeithiol ac uwchraddol ei arddull nag unrhyw bregethwr y cefais erioed. y fraint o'i wrando! Yn fuan wedi fy sefydliad fel gweinidog yn East Cowes, cefais yr anrhydedd o'i groesawu i'm ty, a'i letya am ragor i bymthegnos, ac yn yr ysbaid hwn o amser pregethodd yn agos yr oll o'r capelau Cynulleidfaol yn Ynys Wyth (Isle of Wight). Prin y rhaid dweyd fod ei Saesonaeg yn bur derfynedig, ac yn dra thoredig ar y goreu, er hyny, cynyrchai y fath argraff yn mhob lle, nes dal a chadwyno, a pherswyno y gweinidogion a'r bobl fel eu gilydd. Hyd y dydd hwn, er fod yn agos i haner canrif er hyny, cofir ei bregethau yn dda, ac adroddir llawer o'i sylwadau a'i gymhariaethau air am air, gyda hoffder a brwdfrydedd nas gwelais ei gyffelyb yn un man! Y mae hyn yn fwy hynod o gymaint nad oedd dim o'r dynwaredol yn ei ddull o draddodi nac o'r gwrthatebol yn ei ddull o frawddegu. Ni byddai byth yn rhwygo nwyd yn garpiau' er mwyn effaith. I'r gwrthwyneb yr oedd ymdeimlad dwys—dawel o nerth yn yr oll a ddywedai o'r dechreu i'r diwedd. Fel rheol, er yn cael eu dwysbigo yn eu calonau, ni byddai ei wrandawyr yn ymwybyddol o unrhyw gyffroad anghyffredin, ac eto rywfodd, teimlent fel pe buasai am ryw enyd