Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/457

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi cymeryd meddiant personol o honynt, ac yna yn eu hanfon ymaith i'w cartrefi gryn lawer yn ddoethach, ac yn fwy parod yn mhob modd i amcanu ac ymdrechu am 'ba bethau bynag sydd ganmoladwy.' Clywais eich Robert Hall, Chalmers, Irving, McAll, Melville, James Parsons, a'ch tanllyd Billy Dawson, a thro ar ol tro y bu'm yn crynu ac yn ymnyddu dan eu hyawdledd, ond yr wyf yn ystyriol argyhoeddedig fod effaith pregethau Mr. Williams yn llawer dyfnach, yn llawer mwy parhaol, ac yn gyfangwbl o nodwedd fwy dwyfol! Ond er mor hoff genyf feddwl a siarad am dano, nid yw fy mwriad i geisio rhoddi portreiad llawn o hono ar yr achlysur presenol; gofynai hyny ddetholiad gofalus a chydbwysiad ansoddeiriau sydd yn anfesurol tuhwnt i'm gallu mewn araeth o'r fath hon. Yr oedd mor berffaith naturiol, ac yn ddieithriad felly, fel nad hawdd yw cyfleu syniad cywir am ei arddull ar fyr eiriau; natur ei hunan ydoedd yn llefaru yn yr ymadroddion mwyaf eglur, er hyny ymadroddion llawn o oleu a thân y nef ei hun! Gyda'ch caniatad, pa fodd bynag, hoffwn alw sylw ein cyfeillion ieuainc sydd yn parotoi am y weinidogaeth at yr hyn a ystyriwyf fi oedd ei brif arbenigrwydd, ac yn wir ddirgelwch ei gyflawniadau mwyaf gorchestol. Wrth gwrs, yr oedd ei ymddangosiad yn ddymunol, a'i lais yn ddeniadol, yr oedd yn feistr ar ymadroddi, a chyfunai ynddo ei hun holl