Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/458

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanfodion gwir areithyddiaeth. Ond yr oedd ynddo rywbeth tuhwnt ac uwchlaw i hyn oll, rhywbeth nad oes neb o'i gofiantwyr, hyd yr ymddengys i mi, wedi gwneud llawn gyfiawnder âg ef. Y mae hyn i'w ofidio yn fwy o gymaint a'i fod yn rhywbeth a ddibynai i raddau helaeth ar feithriniad rheolaidd a chyson, ac felly i fesur mawr yn nghyraedd eraill, o'i geisio gyda'r dyfalbarhad a'r ymroddiad priodol. Nis gallaf roddi gwell desgrifiad o hono na gallu rhyfeddol i wneud syniadau arddansoddol yn weladwy, ac i wisgo egwyddorion noethion (abstract), hyny yw, i roddi ffurf, i roddi llun a bywyd i ba beth bynag a ddelai ger ei fron, ac i beri iddo siarad drosto ei hun yn ei iaith naturiol ei hun. Nid ystordy gwybodaeth oedd ei feddwl yn gymaint ag oriel o arluniau ysbrydoledig rhyw wawl—leni ardderchog yn gosod allan y rhwystrau a'r rhagolygon ar yrfa bywyd y Cristion. Nid oedd yn honi dysg, ond yr oedd yn efrydydd dwys o foeseg; ac fel rheol, gallai ddal ei dir yn dda mewn unrhyw ddadl yn y pwnc hwnw. Ond ei hoff destun oedd duwinyddiaeth, eithr duwinyddiaeth o nodwedd eangach a mwy rhyddfrydig nag a gydnabyddid yn ei amser ef. Yn ol ei addefiad ei hun, Baxteriaeth ydoedd o ran egwyddor, ond wedi ei thymheru âg Uchanianaeth John Locke, a'r Hybarch Dr. Williams o Rotherham. Yn ei bregethau y rhai, gyda llaw, oeddynt yn wastad yn fyrion—dechreuai yn gy-