Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/459

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffredin drwy osod i lawr mewn dull tawel a syml ryw wirionedd neu athrawiaeth sylfaenol, yr hon bortreiadai ac a arliwiai mor fedrus fel nad oedd modd camgymeryd ei feddwl. Tra cyflymai ychydig fel yr elai yn mlaen gyda chyfres o gymhariaethau cartrefol, gan raddol ymgodi mewn urddas, mewn tynerwch, ac mewn dylanwad ymwybyddol ar y gynulleidfa; ac yna, gyda fflachiad llygad bythgofiadwy, a llais crynedig, treiddgar, chwyrndaflai allan ryw gymhwysiad ymarferol pwysig a gyffroai ac a barai i bob calon ddychlamu, fel sydyn sain udgorn yn galw i ryfel. Ac ar hyny, cyn i'r argyhoeddiadau gael amser i droi'n darth, a'r ystyriaethau yn niwl, gollyngai'r gynulleidfa ar unwaith, nid i feirniadu nac i ganmol, ond i ddechreu ceisio bod a gwneud yr hyn a gymhellasai efe arnynt. Nid oedd ganddo ond ychydig gred yn y teimladrwydd trystfawr, ymdaenol, a nodwedda yr hyn a elwir yn Ddiwygiad; yr oedd ei ffydd yn unig yn ngwirionedd Duw fel y'i datguddir yn a thrwy Iesu Grist. Nid oedd neb a ddeallai yn well wirionedd y gosodiad mai gwreiddyn byw iawn—gymeriad yw iawn—feddwl, ac felly y mae yn amheus genyf a ragorodd neb arno ef mewn apeliadau uniongyrchol at synwyr cyffredin a chydwybod a chalon, heblaw yr Athraw mawr ei hun. Wedi y crynodeb hwn o'i nodweddion, goddefer i mi anturio ychydig esiamplau geirwon o'i arddull gyffredin, ac yn enwedig ei ddull