Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/460

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hapus o drafod egwyddorion. Tra yn gwneud hyny, rhaid i mi ofyn caniatad i wneud defnydd helaeth o'm nodiadau, oblegid mai dyfynu yn syml y byddaf gan mwyaf o hen ddyddiadur na fwriadwyd mo hono erioed i lygad y cyhoedd. Ar yr un pryd, hoffwn i chwi gofio mai fel 'gwreichion oddiar eingion' y bwriedir y dyfynion hyn, ac nid mewn un modd fel engreifftiau o'i gyfansoddiadau gorphenedig, oblegid ar yr achlysuron y cyfeiriwyd atynt teimlai y pregethwr ei fod mewn hualau creulawn o herwydd yr hyn a alwai efe yn 'felldith Babel' hyny yw, yr oedd yn gorfod siarad yn Saesonaeg tra yn meddwl yn Gymraeg. Dechreuwn gydag un o'i gyflawniadau cyntaf yn y Brifddinas. [1] Yr oedd i bregethu i gynulleidfa orlawn yn nghapel Dr. Fletcher yn Stepney. Ychydig eiliadau cyn i'r gwasanaeth ddechreu, daeth gwraig arw yr olwg arni i mewn, gan arwain geneth fechan bump neu chwe' mlwydd oed, a dangoswyd hwynt i eisteddle heb fod nebpell oddi—wrth y drws. Yn ystod y darllen a'r gweddio, yr oedd y plentyn mor aflonydd nes poeni'r fam o'r braidd tuhwnt i bob dyoddef. Golygfa boenus, galongaled, ydoedd. Cymerodd Mr. Williams ei destun: Geiriau Lemuel frenin, y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo.' Wedi brawddeg neu ddwy o ragymadrodd, dywedodd fod y Creawdwr,

  1. Bu Mr. Williams yn pregethu yn y Brifddinas amrai droion yn flaenorol i hyn