Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/461

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei awydd i brydferthu y bydysawd âg amrywiaeth, wedi penderfynu gwneud byd yn yr hwn y gellid gweled y peth rhyfedd hwnw nas clywsid ac nas dychymygasid am dano hyd yn hyn, ond a adwaenir genym ni dan yr enw mam! Ac mewn canlyniad, Efe a luniodd y morgrugyn bychan, doeth, darbodus, a serchoglawn. Parai cyflawniadau y morgrugyn gryn ddyryswch i'r angylion ar y cyntaf. Gwylient gyda dyddordeb eu dull o fagu a phorthi eu rhai bach, a theimlent nas gallent ganmol gormod yn ngwyneb yr effeithiau. Y cam nesaf oedd dangos y gallesid gwneud yr un peth yn yr awyr. Felly, efe a wnaeth yr eos, yn nghyflawniadau yr hwn aderyn y gellid gweled dirgelion yn ffurf adeiladu nythod a deoriad, yr hyn a ofynent gryn amser ac amynedd, tra y clywid y gwr yn canu yn beraidd ar y gainc, i loni'r fam a'i rhai bychain hyd nes y tyfai eu hedyn ddigon i'w galluogi i ddechreu bywyd ar eu traul eu hunain. (Erbyn hyn, yr oedd y wraig arw yr olwg arni wedi gafael yn llaw ei phlentyn afreolus a'i nesu ati ei hun). Wedi y rhyfeddodau hyn ar y ddaear, ac yn yr awyr, y mae Duw yn gweled yn dda ddangos beth allesid wneud yn y dyfroedd mawrion; ac ar hyny efe a luniodd y morfil, ac a'i gadawodd i roddi sugn i'w rhai bach, ac i'w serchog wylio yn eu chwareuon plentynaidd, ac i wneud eu goreu i'w hamddiffyn rhag y morgi (shark), a physgodyn y cledd sydd