Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/462

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn tramwy oddiamgylch fel llewod rhuadwy gan geisio y neb a allont eu llyncu. (Yr oedd yn dechreu poethi erbyn hyn, a'r wraig arw ei gwedd yn dechreu tyneru fel y mae yn cymeryd ei geneth fach afrywus ar ei glin). Ac yn awr, dyna'r climax wedi ei gyrhaedd. Y mae Duw yn penderfynu dangos i'r bydysawd y gallai ymddiried i'r natur famaidd hon hyd yn nod un o'i blant anfarwol ei Hun. Efe a greodd fam resymol, dduwiol; dylanwodd ei natur â greddfol serch, dododd faban digymhorth dan ei gofal i'w feithrin a'i addysgu i'r nef, anrhydedd pell tuhwnt i gyrhaedd yr angel anrhydeddusaf oll! Pa le yr oedd y wraig nad ymogoneddai yn y fath ymddiriedaeth, ac nad aberthai yn llawen unrhyw beth a phobpeth i gyfiawnhau yr ymddiriedaeth a osodasai y byth-fendigedig Dduw ynddi! (Erbyn hyn yr oedd yr eneth fach yn mreichiau ei mam arw ei gwedd, yr hon a'i tyner-wasgai i'w mynwes, tra y llifai y dagrau brwd dros ei gruddiau. Synais lawer beth ddaeth o honynt ar ol hyn; nis gallwn. ond gobeithio y goreu). Cymerir yr ail enghraifft o'm hadgofion am ei bregeth gyntaf yn fy lle yn Cowes. Y pwnc oedd, Cydweithio â Duw.' Dechreuodd gyda'r gosodiad fod yr holl ymwneud Dwyfol â'n byd ni wedi ei fwriadu fel gwrthglawdd rhag pechod, neu ynte fel moddion i adfer y difrod a achosid gan bechod. Fel prawf o hyn, cyfeiriodd yn gyntaf at hanesiaeth, at y cyfnod ag Adda, y