Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/463

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diluw, y trefniant Lefiticaidd, y prophwydi, yr ymgnawdoliad, yr aberth ar y groes, a gweinidogaeth y Dyddanydd. Dilynid hyn gan draethiad ardderchog ar oruchwyliaethau Rhagluniaeth, galwadau yr efengyl, ac ymrysoniadau yr ysbryd, oll a'u hamcan i'n gwneud yn wŷr a gwragedd o gymeriad da. I bob un o honom, gan nad pa mor gyffredin o ran talent neu amgylchiadau, fe gynygir yr anrhydedd o fod "yn gydweithwyr âg ef." A pha arwydd o bendefigaeth a allai fod yn uwch na hyny? Deuwch allan, ynte, o ganol tyrfa y segurwyr, a dangoswch eich colours i'r byd. Na hidiwch ddim pa un a yw y gwasanaeth y'ch gelwir iddo yn ymddangos yn fawr neu yn fach. Dyna'r plentyn claf yna y gellwch helpu i weini arno, neu yr hen wraig orweddiog y gellwch helpu i'w chysuro a'i dyddanu, neu ynte y dosbarth yn yr Ysgol Sul sydd mewn perygl difodiant o eisieu athraw. Na chollwch un awr. Ymroddwch i'r gwaith ar unwaith; dichon na chewch byth gynyg ar y fath gyfleusdra eto. Y mae Mab Duw am i chwi ymrestru yn ei fyddin, ac y mae wedi fy anfon i'ch galw wrth eich enw, John, Thomas, Jane, ac Elizabeth! Pa ateb a roddaf iddo? Y mae angen am bob math o help, a'r eiddo chwithau yn eu plith, yn yr anturiaeth bwysig hon. Yn y darlun o'r fuddugoliaeth yn Llyfr Datguddiad, cofiwch mai nid cael ei lethu i'r pydew dan bwysau mynydd mawr y mae Satan, ond ei gadwyno i'w