Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/464

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffau drwy gyfuniad o ddalenau aneirif, rhai o honynt mor fychain a distadl a'r mân ddalenau a wasgerir gan gymdeithas y Traethodau Crefyddol! Ië, ni a'i rhwymwn â darnau o bapyr, gweddillion a sylwedd hen garpiau, a chaiff weled i'w warth nas gall na thori na chnoi'r gadwyn drwodd mewn mil o flynyddoedd! Nac ofnwch ddim, ond ewch at eich gwaith gydag ewyllys, gan wybod y cewch gymeradwyaeth a bendith y nef arnoch! Yr wyf wedi llwyddo mor anmherffaith gyda'r ail enghraifft fel yr wyf yn ymatal mewn anobaith rhag anturio â'r drydedd enghraifft. Cysegr-ysbeiliad fuasai ceisio cyfleu ei sylwedd ond yn ei eiriau ef ei hun yn unig; ond ysywaeth, nis gallaf alw y geiriau hyny i'm cof, er fod eu miwsig eto'n adsain yn fy nghlustiau! Pwnc y bregeth hono ydoedd "Cyfryngdod Crist." O'i chymeryd oll yn oll, dyma'r bregeth fwyaf arddunol, ymresymiadol, ac anghymharol gyffrous a glywais ganddo erioed! Ar gais arbenig, traddododd hi drachefn a thrachefn mewn gwahanol ranau o'r Dywysogaeth; a chredaf nad gormodiaeth yw dweyd fod eto ganoedd, ac efallai rai miloedd o Gymry, nas gallant gyfeirio at y bregeth hono heb deimlo rhyw gynhyrfiad yn eu hysbryd nad achosid gan enw neb arall. Wrth derfynu, hoffwn gyflwyno un enghraifft arall, am yr hon nis gwn ddim ond yr hyn a adroddwyd i mi gan gyfeillion oeddynt yn bresenol ar yr achlysur. Dygwyddodd fod ciniaw yn cael ei roddi yn